Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

MCD

 

Teitl: Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod y fframwaith ymarferol y bydd cynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor yn gweithredu o'i fewn yng Nghymru ar ôl diddymu system bresennol budd-dal y dreth gyngor. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i awdurdodau lleol fabwysiadu cynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor sy’n cynnwys ystod gyfyngedig o elfennau dewisol er mwyn iddynt allu rhoi cymorth o ran y dreth gyngor.

 

Yn unol â’r darpariaethau yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (y Ddeddf) sy’n diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, bydd Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 (“rheoliadau’r gofynion rhagnodedig") a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012 (“rheoliadau’r cynllun diofyn”) yn llywodraethu’r broses o gyflwyno a gweithredu cynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor yng Nghymru.

 

Mae Adran 13A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”), a ddisodlwyd gan adran 9 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012, yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynglŷn â chynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor.Mae’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru lunio cynllun sy’n pennu’r gostyngiadau a fydd yn berthnasol i symiau’r dreth gyngor a fydd yn daladwy gan bobl, neu gan ddosbarthiadau o bobl, yr ystyrir eu bod mewn angen ariannol. Mae paragraffau 2 i 7 o Atodlen 1B i Ddeddf 1992 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi drwy reoliadau, y materion hynny y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun, ynghyd â gofynion ychwanegol y mae’n rhaid eu cynnwys neu beidio â'u cynnwys mewn cynllun.

 

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol a diffiniadau o eiriau a chymalau allweddol.  Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â gofynion cynllun yng nghyswllt awdurdodau bilio yng Nghymru, gan gynnwys dosbarthiadau o bobl, gostyngiadau a gofynion gweithdrefnol y cynllun.Mae Rhan 3 yn rhagnodi’r dosbarthiadau o bobl y mae’n rhaid i awdurdod eu cynnwys mewn cynllun. Mae Rhan 4 yn rhagnodi’r dosbarthiadau o bobl y mae’n rhaid i awdurdod beidio â’u cynnwys mewn cynllun.

 

Mae Rhan 5 ac Atodlenni 1 i 5 yn rhagnodi’r materion ynglŷn â phensiynwyr y mae’n rhaid i awdurdod eu cynnwys yn ei gynllun. Mae Atodlenni 1 i 5 yn rhestru’r rheolau sy’n berthnasol i benderfynu a yw pensiynwyr yn gymwys i gael gostyngiad a faint o ostyngiad a gânt o dan gynllun, ac maent yn amlinellu sut y mae'n rhaid ymdrin ag incwm a chyfalaf pensiynwyr wrth gyfrifo cymhwysedd ar gyfer gostyngiad.

 

Mae Rhan 5 ac Atodlenni 6 i 10 yn rhagnodi’r materion ynglŷn â phobl nad ydynt yn bensiynwyr y mae’n rhaid i awdurdod eu cynnwys yn ei gynllun. Mae Atodlenni 6 i 10 yn rhestru’r rheolau sy’n berthnasol i benderfynu a yw pobl nad ydynt yn bensiynwyr yn gymwys ar gyfer gostyngiad a faint o ostyngiad a gânt o dan gynllun, ac maent yn dweud sut y mae'n rhaid ymdrin ag incwm a chyfalaf pobl nad ydynt yn bensiynwyr wrth gyfrifo cymhwysedd ar gyfer gostyngiad, gan gynnwys mewn achosion lle y dyfernir credyd cynhwysol i rywun nad yw’n bensiynwyr neu i bartner.

 

Mae Atodlen 11 yn darparu ar gyfer cymhwyso’r cynllun i fyfyrwyr.

 

Mae Rhan 5 ac Atodlenni 12 i 14 yn cynnwys materion yn ymwneud â'r holl ymgeiswyr y mae’n rhaid i awdurdod eu cynnwys yn ei gynllun.

 

Gweithdrefn:  Cadarnhaol

 

Materion Technegol: Craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.2, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

1.       Nid yw’r Rheoliadau hyn wedi’u gwneud yn ddwyieithog.

 

[Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg].

 

Mae Paragraff 5 o’r Memorandwm Esboniadol yn esbonio pam nad yw’r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud yn ddwyieithog:

 

“Because of the length and technical complexity of the regulations, the timeframes within which they have been compiled and the fact that they draw on council tax benefit regulations for which there is no existing translation, it has not been possible to arrange for the Regulations to be provided in Welsh.”

 

2.       Ar dudalennau 96 a 97, (Atodlen 6, Paragraff 19) cyfeirir at reoliadau 75(1)(a)(ii), 75(1)(a)(iv) a 75(1)(b)(ii) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996. Yn wir, dylai’r cyfeiriadau hyn fod at reoliadau 75(1)(a) a 75(1)(b) yn lle hynny.

 

[Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio'n ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol]

 

3.       Mae’r pwynt adrodd hwn yr un fath â'r un y cyfeirir ato uchod ond mae’n digwydd mewnrhan wahanol o’r testun. Ar dudalen 109 (Atodlen 6, paragraff 30) cyfeirir at reoliad 75(1)(a)(ii), 75(1)(a)(iv) a 75(1)(b)(ii) o  Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996. Yn wir, dylai’r cyfeiriadau hyn fod at  reoliad 75(1)(a) a 75(1)(b) yn lle hynny.

 

[Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio'n ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol].

 

4.       Ar dudalen 134 (Atodlen 8, paragraff 18(c)) cyfeirir at reoliad 18(3) o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a’r Gyfradd Uchaf) 2002. Yn wir, mae’r ddarpariaeth hon wedi cael ei diddymu gan reoliad 2(19) Rheoliadau Credydau Treth (Diwygiadau Amrywiol) 2012. Roedd y ddarpariaeth hon yn caniatáu i hawlwyr gael rhagor o fudd-dal/gostyngiad yn y Dreth Gyngor.

 

[Rheol Sefydlog 21.2 (vi)  – ei bod yn ymddangos bod ei waith drafftio'n ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol].

 

 

Rhinweddau: Craffu

O dan Reol Sefydlog 21.3, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

1.   Mae dwy set o reoliadau’r Dreth Gyngor wedi’u gosod gerbron i'w cymeradwyo, sef rheoliadau’r gofyniad rhagnodedig a rheoliadau’r cynllun diofyn. Mae rheoliadau’r gofyniad rhagnodedig yn cynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol unigol yng Nghymru greu cynlluniau lleol, ac maent hefyd yn pennu nifer o feysydd a fydd yn destun disgresiwn lleol. Daw rheoliadau'r cynllun diofyn i rym os bydd awdurdodau lleol yn dewis peidio â mabwysiadu eu cynlluniau hwy eu hunain neu os na fyddant yn mabwysiadu cynlluniau o fewn y cyfnod gofynnol.

 

Os bydd awdurdodau lleol yn dymuno mabwysiadu eu cynlluniau hwy eu hunain o dan reoliadau’r gofynion rhagnodedig, yna, noda rheoliad 13 “each authority in Wales must make a scheme no later than the 31st January 2013, and the first financial year to which that scheme relates must be the year beginning 1 April 2013”. Oni bai bod Awdurdodau Lleol eisoes wedi dechrau gwneud eu paratoadau eu hunain ar gyfer y cynlluniau, yna mae'r amser yn brin iawn iddynt fabwysiadu eu cynlluniau hwy eu hunain.  Mae’r math o newidiadau a’r gwaith y rhagwelir y bydd angen i Awdurdodau Lleol eu gwneud er mwyn mabwysiadu eu cynlluniau eu hunain i'w gweld ar dudalennau 12 ac 13 o'r Memorandwm Esboniadol lle y ceir tabl sy'n rhestru amcangostau newid o system bresennol budd-dal y dreth gyngor i gynllun newydd (costau'r cyfnod pontio). Dyma ambell enghraifft o'r newidiadau hyn: newidiadau i system TG pob awdurdod lleol, modelu meddalwedd newydd, hyfforddi staff a rhoi cyhoeddusrwydd i'r cynlluniau newydd drwy sawl gwahanol gyfrwng.

 

2.   Ailgyflwynwyd y ddwy set o reoliadau ar y 12fed  o Ragfyr 2012. Y gwelliant sylweddol i reoliadau’r gofynion rhagnodedig oedd bod cymal “machlud” wedi’i gynnwys yn rheoliad 1. Noda Rheoliad 1(3) “These Regulations apply in relation to the financial year beginning on 1 April 2013”.Mae hyn yn cyfyngu ar gymhwyso’r Rheoliadau hyn, a daw eu grym i ben am hanner nos 31 Mawrth 2014. Noda Rheoliad 1(4) "On or before 1 January 2014 the Welsh Ministers must publish draft regulations under section 13A(4) of the 1992 Act in respect of the financial year beginning 1 April 2014 and subsequent  financial years. Mae hyn yn golygu y caiff rheoliadau’r gofynion rhagnodedig eu hailddrafftio a’u cyhoeddi erbyn neu cyn y cyntaf o Ionawr y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i’r Cynulliad ailystyried rheoliadau'r gofynion rhagnodedig drafft yn y dyfodol a chraffu arnynt mewn da bryd.Mae’r memorandwm esboniadol wedi cael ei ddiwygio i adlewyrchu’r newidiadau uchod (paragraffau 6, 7 ac 8).

 

Nid oes diwygiadau wedi’u gwneud i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012 gan nad oedd angen unrhyw ddiwygiadau. Effaith paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yw mai dim ond os digwydd i awdurdod lleol fethu â chydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd a bennir mewn rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gyflwyno cynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor y bydd unrhyw gynllun diofyn a ragnodir mewn rheoliadau yn berthnasol. Felly, dim ond yn ystod y cyfnod pan fydd rheoliadau’r gofynion rhagnodedig, sy'n gorfodi'r ddyletswydd i gael cynllun, yn berthnasol y bydd gan Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012 effaith ymarferol sef, yn unol â rheoliad 1(3) o’r rheoliadau hynny, y flwyddyn ariannol 2013-14.

 

3.   Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn amlinellu’r gwahanol opsiynau ar gyfer gwneud y Rheoliadau hyn a’r canlyniadau posibl. Mae Tudalen 11 o’r Memorandwm Esboniadol yn esbonio bod diffyg yn yr arian a ddaw gan Drysorlys Ei Mawrhydi sy’n golygu, o hyn ymlaen, y bydd yn rhaid i bobl sy’n hawlio cymorth o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor dalu cyfran o’u bil treth gyngor hwy eu hunain. Noda’r Memorandwm Esboniadol “due to the funding available, the new scheme will mean that approximately 70% of current Council Tax Benefits (CTB) claimants in Wales will have to pay council tax for the first time and as a result local authorities are expecting that their council tax collection rates could fall and the costs of collecting this additional council tax could rise”.Amcangyfrifir bod disgwyl i'r cyfraddau a gesglir ostwng hyd 1.5%.

 

 

         

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Rhagfyr 2012

 

Ymateb y Llywodraeth i ddilyn